top of page

Ynghylch

Prosiect i nodi 80 mlynedd ers y Blitz yn Grangetown, Caerdydd yw Profiad y Blitz Liw Nos. Mae pedwar artist a chriw o bobl ifanc greadigol leol wedi gwneud gwaith ymchwil i’r llefydd a’r bobl yn Grangetown a gafodd eu heffeithio gan y Blitz. Comisiynodd Art Shell a Chymdeithas Hanes Lleol Grangetown bedwar darn o waith celf i’w harddangos liw nos yn y safleoedd ble gwelwyd y bomio gwaethaf yn Grangetown 80 mlynedd yn union i’r diwrnod a’r amser y digwyddon nhw.

clive-street-corner-after-bomb-in-1941.j

Am yr artistiaid:

 

Mae Alec Stevens yn artist gweledol sy’n canolbwyntio ar adrodd hanesion mewn amgueddfeydd, archifau a chasgliadau. Mae’r prosiectau y mae’n eu gwneud wedi’u gwreiddio mewn ymchwil i leoliad penodol a’r bobl yn y lleoliad hwnnw drwy hanes. Mae Alec yn datblygu gwaith sydd wedi’i ganoli ar Fecws Hollyman’s (Clarence Hardware bellach) yn Grangetown, Caerdydd. Mae ganddo ddiddordeb yn y digwyddiadau a achosodd i 10 o bobl a enwyd a 22 o bobl ddienw lochesu yn seler y becws ar noson yr 2il o Ionawr 1941. www.alecstevens.co.uk

 

Mae Jason&Becky yn artistiaid cydweithredol sydd wedi’u lleoli yn Abertawe. Mae natur ryngweithiol i’w hymarfer yn aml, ac mae eu gwaith yn aml yn seiliedig ar gyfranogiad a/neu osodwaith clyweledol, gyda’r nod o archwilio’r berthynas rhwng pobl a lle. Ar gyfer Profiad y Blitz Liw Nos, mae Jason&Becky yn cynnig gweithio gyda thrigolion a phlant ysgol lleol i ddatblygu profiad clyweledol a/neu ddigwyddiad perfformio, i nodi’r 80 mlynedd wedi’r Blitz, drwy archwilio a chydblethu hanesion o’r gorffennol a’r presennol. Mae Jason&Becky yn bwriadu gwneud gwaith o amgylch Clydach Street. www.jasonandbecky.co.uk

Cerddor a chynhyrchydd recordiau yw Secondson, sy’n creu gwaith gyda chyfarpar sain analog gan fwyaf, gyda phwyslais ar seiniau wedi’u syntheseiddio a’u samplu. Ar gyfer Profiad y Blitz Liw Nos, bydd Secondson yn gweithio gyda haldoroffon, offeryn a all greu sain o ansawdd diwydiannol a mecanyddol iawn, fel drôn bron. Bydd hynny wedi’u gyplu â seiniau sielo traddodiadol wedi’u mwyhau ac unrhyw ffynonellau sain y mae modd eu rhoi drwy’r mwyaduron. Bydd Secondson yn gweithio gyda thafluniadau deuol a pherfformiadau byw gerllaw lleoliad trasiedi Becws Hollyman’s ym mis Ionawr 1941. Mae stiwdio Secondson dros bont Clarence Road yn Nhre-biwt. www.facebook.com/secondsonmusic

 

Tîm Ieuenctid PBLN:

Ar hyn o bryd, mae criw o 10 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, sy’n byw yn Grangetown neu sydd â chysylltiad â Grangetown, yn gweithio ar sesiynau gydag artistiaid, cerddorion a chynhyrchwyr lleol i greu pedwerydd darn o waith celf/perfformio.

Cefndir: Wrth arwain ar y gwaith ymchwil ar gyfer Cymdeithas Hanes Lleol Grangetown naw mlynedd yn ôl, dechreuodd Steve Duffy ac aelodau eraill o’r Gymdeithas gasglu hanesion ac atgofion sain am yr Ail Ryfel Byd gan drigolion Grangetown, rhai ohonynt wedi’n gadael bellach. Daeth yn amlwg pa mor bwysig oedd cofnodi hanesion personol a theuluol – a rhoi trefn ar ddigwyddiadau a oedd yn aml, fel arall, wedi’u colli yn sgil sensoriaeth yn ystod y rhyfel.

 

“Roedd y rhain yn ddigwyddiadau dramatig a thrawsnewidiol i lawer o bobl – lladdwyd 165 ar draws Caerdydd ac fe wnaed 6,000 yn ddigartref mewn un noson, a hynny yng nghanol y gymdogaeth a gafodd yr ergyd waethaf.” 

 

Yn ogystal â siarad gyda phobl hŷn, byddwn yn gweithio gydag ysgolion ac yn ceisio meithrin cysylltiad â phobl ifanc mewn ffordd greadigol i ymdeimlo â’r Blitz a’i effaith ar y dirwedd a’r gymuned leol.

  • Black Facebook Icon
  • Black Instagram Icon
  • Twitter
bottom of page